FAQ's

Mae Llwynfor (LL53 8AF) uwchben Porth Neigwl, y traeth hiraf ym Mhen Llyn a pharadwys syrffio, ac ym mhentref Rhiw. Mae Llwynfor bedair milltir o Aberdaron a phedair milltir o Sarn.

Mae traeth Porth Neigwl hanner milltir o'r ty ac mae'n bosib cerdded lawr i'r Rhual - darn caregog o'r traeth. Mae hi’n anodd creu llwybyr yma oherwydd erydiad tir. Er mwyn mynd a'r teulu i'r traeth am y dydd - mae prif fynedfa Porth Neigwl yn Llanengan (7 milltir) neu mae traeth Aberdaron o fewn 4 milltir.

Mae gan Aberdaron (4 milltir) 2 dafarn yn gweini prydau bwyd, sawl caffi, siop, swyddfa bost a becws ac mae gan Sarn (4 milltir) 2 dafarn, cigydd, swyddfa bost a garij.

Darperir:

  • tyweli - tywel llaw a bath ar gyfer pob gwestai a thywel mawr ar gyfer defnyddio’r twb poeth.
  • llieiniau sychu llestri
  • offer glanhau sylfaenol
  • Llestri
  • Sospenni a phob math o gelfi coginio
  • Cyllyll, ffyrc, llwyau a gwydrau
  • Papur toilet, papur cegin, tabledi golchi llestri, hylif golchi llestri, powdwr golchi dillad a hylif golchi dillad, bagiau sbwriel.
  • tyweli i'r twb poeth

Dan ni'n derbyn hyd at ddau gi ond mae cost o £30 fesul ci fesul arhosiad. Disgwylir i'r cwn a'r perchnogion ddilyn rheolau syml er enghraifft - ni chaniatier i'r cwn fynd fyny'r grisiau neu fod yn y ty ar eu pennau eu hunain.

O gwmpas y ty mae gardd a sawl man eistedd gyda dodrefn gardd yn cynnwys patio. Mae'r ardal wedi'i amgylchynu gyda ffens. Mae BBQ nwy mawr ar gael. Mae digon o le parcio.

Mae’r twb poeth yn eistedd 8 ac yn cael ei gadw rhwng 38 a 39 gradd celsiws yn ddibynnol ar y tymor.  Mae’n cael ei gynnal a’i chadw yn rheolaidd trwy eich arhosiad.  Mae iddo orchudd sydd hefyd fel `gazebo’ sy’n golygu y gellir ei ddefnyddio glaw neu hindda.

Caniateir mynediad i'r ty ar ol 5 o'r gloch y prynhawn a disgwylir i ymwelwyr adael yn brydlon am 9 o'r gloch y bore.

Rhoddir y manylion i chi pan yn archebu gwyliau.

Mae stof goed rhwng y gegin a'r ystafell eistedd ac mae cyflenwad hael o goed a phriciau tan trwy'r flwyddyn. Sylwer mai dim ond coed a losgir yn y stof NID glo.

Ydy mae hi'n bosib cael archeb bwyd i'r ty - y cod post ydy LL53 8AF. Gofalwch eich bod yn y ty yn yr amser danfon.

Mae oergell a rhewgell yn y gegin.

Mae cost gwres a thrydan y ty wedi'i gynnwys ym mhris yr arhosiad. Fodd bynnag mae mitar £1 i wresogi'r ystafell chwaraeon.

Mae peiriant sychu dillad yn y ty ac mae lein ddillad bach y tu allan i’r ty.

Mae nifer o fwydlenni wedi'i cynnwys yn y ffolder yn y gegin.

Mae derbyniad (yn du blaen y ty) ar gyfer EE, O2, Vodafone a 3. Mae Wifi (Broadband Infinity) drwy'r ty.

GP - Meddygfa Rhydbach, Botwnnog - 4 milltir.
Milfeddygfa Deufor, Y Ffor, Pwllheli, 12 milltir.
A & E Ysbyty Gwynedd, Bangor - 40 milltir. Mae Uned Man Anafiadau yn Ysbyty Alltwen, Tremadog ac Ysbyty Bryn Beryl, Pwllheli sydd ar agor am oriau penodol - mwy o fanylion yn y ty.

Oes - mae hyd at ddau got a dwy gadair uchel ar gael yn rhad ac am ddim ond fe fydd yn raid i chi ddod a dillad gwely ar gyfer y cot. Rhaid archebu'r rhain ymlaen llaw os gwelwch yn dda.