Gweithgareddau lleol

Dyma fanylion rhai gweithgareddau posib I’ch galluogi I gynllunio’ch gwyliau.

Mae digonedd o weithgareddau i ddifyru’r plant ym Mhen Llŷn. Mae cestyll i’w darganfod yng Nghricieth, Caernarfon a Harlech lle mae’n bosib blasu awyrgylch ganoloesol.

Gallwch logi beiciau, dysgu hwylfyrddio – mae’r rhestr yn faith!

Dewis o draethau braf – be well ar gyfer y plant?! Ymdrochi, nofio, syrffio, hwylio – mae llu o weithgareddau i’r plant ar draethau Pen Llŷn!
Marchogaeth ceffylau, tripiau cwch, beicio – dyma ffyrdd i’r plant fwynhau cefn gwlad bendigedig yr ardal.


Os ydy’r plant yn dymuno rhywbeth gwahanol – gallwch ymweld â Pharc Glasfryn lle mae yna fowlio deg neu `go-carts’. Mae’r Parc hefyd yn cynnig beicio cwad dros dir fferm a lle chwarae meddal i blant bach.

Mae `Gypsy Wood’ a `Gelli Gyffwrdd’ ger Caernarfon yn cynnig dyddiau o weithgareddau difyr ac i’r rhai mwyaf anturus – mae’r `Snowdonia Rope Centre’ yn Llanberis.

Mae traethau Pen Llŷn yn enwog am eu harddwch naturiol – digonedd o ddewis yma!!!

Dyma’r rhai mwyaf enwog.....

Aberdaron
Mae traeth tywod bendigedig yn Aberdaron gydag Ynysoedd y Gwylanod yn cysgodi yn y bae. Mae gan y pentref hardd yma siopau bychan a bwytai yn ogystal ag Eglwys Sant Hywyn sydd yn gysylltiedig â RS Thomas - y bardd enwog.

Porth Neigwl
Mae Porth Neigwl yn bedair milltir o hyd ac yn le poblogaidd i syrffio gyda pobl ledled Prydain a thu hwnt. Uwchben y traeth mae clogwyni clai serth a phenrhyn creigiog pob pen. Mae’r milltiroedd o dywod glân yn berffaith ar gyfer syrffio, hwylfyrddio, hwylio, sgio dŵr, ac yn y blaen.

Abersoch
Mae Abersoch yn bentref glan y môr poblogaidd iawn. Mae mwy nag un traeth tywodlyd braf yma a siopau a bwytai i ymweld â nhw. Mae gweithgareddau dŵr eto yn bwysig yma ac mae lle i’r dechreuwyr yn ogystal â’r profiadol yn Abersoch.

Porthdinllaen
Mae Porthdinllaen yn un o draethau yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Dyma fan bendigedig gyda thraethau euraid, pyllau creigiau a golygfeydd anhygoel draw i fynyddoedd yr Eifl.
Mae yma hanes cyfoethog o adeiladu llongau, pysgota a smyglo. Mae gorsaf bad achub Porthdinllaen rownd y gornel. Man delfrydol am bicnic!!


Nefyn
Mae Nefyn yn dref lan y môr dawel gyda hanes morwrol gyfoethog. Mae’r traeth yma yn gysgodol ac yn ddiogel – eisteddwch yma a mwynhau’r olygfa tuag at yr Eifl, tri mynydd ochr yn ochr.

Porthoer
Mae Porthoer yn draeth dan reolaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn ddarn hyfryd o arfordir naturiol. Mae yma faes parcio a rhed y ffordd I lawr I’r traeth gyda’I gaffi a siop bychan.

Traeth Penllech
Dyma un o’r traethau llai adnabyddus ond teimlwn ei fod gyda’r delaf. Man cerdded wna les i gorff a meddwl!!

Mae Clwb Golff Nefyn a’r cylch yn gwrs golff 26 twll gyda golygfa bendigedig o’r môr. Mae’n gwrs at ddant golffwyr o pob gallu.

Mae Cwrs Golff Abersoch yn gwrs 18 twll gyda golygfeydd o Fae Ceredigion a mynyddoedd Eryri. Mae’r hinsawdd tyner yma yn cynnig golff 365 diwrnod y flwyddyn.

Ym Mhenyberth mae darpariaeth golff pob tywydd – ar gyfer rhai sy’n cychwyn a’r rheini gyda mwy o brofiad.

Mae Cwrs Golff Cricieth yn edrych draw dros Gastell Cricieth. Mae’r cwrs 9 twll yma yn enwog am i dri Prif Weinidog o’r ugeinfed ganrif chwarae yno ar yr un diwrnod – David Lloyd George, Winston Churchill ac Andrew Bonar Law.

Mae Cwrs Golff Pwllheli yn gwrs 18 twll sydd eto â golygfeydd o fôr a mynyddoedd.

Dewch â’ch ffrindiau, teulu neu glwb/cymdeithas cerdded i aros yn Llwynfor a mwynhau Llwybr yr Arfordir. Cerddwch yr 84 milltir i gyd neu cymerwch wyliau byr a dewiswch gerdded rhan o’r daith yn unig. Dewch â’r ci efo chi – `dan ni’n croesawu hyd at ddau gi yn Llwynfor.
Mae Llwybr Arfordir Llyn yn 84 milltir o hyd. Mae’n cychwyn yng Nghaernarfon ac yn mynd â chi o gwmpas arfordir Pen Llyn gan orffen ym Mhorthmadog. Mae yma rai o’r golygfeydd arfordirol mwyaf anhygoel yng Nghymru. Dyma lle fo Eryri yn cyfarfod Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Pen Llyn a Môr yr Iwerddon!! Gwelwch y dolffiniaid trwyn potel a’r morlo llwyd neu edrychwch ar yr amrywiaeth adar!! Dewch â sbienddrych efo chi – efallai y gwelwch frân coesgoch!!

Mae’r rhan fwyaf o’r daith ar hyd llwybrau cyhoeddus, lonydd tawel cefn gwlad a thraethau. Weithiau mae’r llwybr yn dringo elltydd serth.

Mae’r Llwybr Arfordir yn seiliedig ar hen daith y pererinion i Ynys Enlli, ynys dawel heddychlon oddi ar arfordir Llyn, lle hanesyddol yn llawn chwedlau a thraddodiadau. Ewch ar daith mewn cwch i Enlli ar ddiwedd eich arhosiad!

Cymerwch hoe o gerdded i fwynhau rhai o’r atyniadau a golygfeydd eraill yn yr ardal, ee.

  • Castell Caernarfon – un o’r cestyll mwyaf cywrain ei bensaerniaeth yng Nghymru.
  • Glynllifon – unwaith yn stad a phlasty mawr y teulu Newborough a wnaeth eu ffortiwn yn y diwydiant llechi – rwan yn Barc Gwledig bendigedig gyda llwybrau trwy’r goedwig a chaffi.
  • Caer Arianrhod – fe’i gwelir ar lanw isel ar y traeth yn Ninas Dinlle, rhyw gilomedr o’r lan – dywedir iddo fod yn gastell un o gymeriadau’r Mabinogi.
  • Nant Gwrtheyrn – unwaith yn bentref chwarel ynysig, rwan yn Ganolfan i Iaith a diwylliant Cymreig.
  • Porthdinllaen – traeth bendigedig gyda’i dy tafarn ar y traeth - Ty Coch. Mwynhewch ddiod ar y tywod!
  • Porthoer – traeth lle fo’r tywod yn chwibanu dan draed!
  • Plas yn Rhiw – nepell o Lwynfor, hen gartref y chwiorydd Keating, rwan dan berchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mwynhewch y ty a’r gerddi bendigedig yn cysgodi rhag wyntoedd geirwon Porth Neigwl (nefoedd y syrffwyr).
  • Cilan – trwyn Cilan gyda’i olygfeydd arfordirol gwych.
  • Castell Cricieth – daeth y Saeson ddim pellach na hyn i’r Gorllewin i geisio tawelu’r Cymry yn yr oes a fu. Gadawyd y castell yn furddun gan Owain Glyndwr a’i ddynion yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.
  • Llanystumdwy – man geni David Lloyd George – cymerwch amser i ymweld â’i fedd a’r amgueddfa i goffau ei fywyd a’i waith.


Map Arfordir Llyn - cliciwch yma

 

Mae’r Rheilffordd Arfordir y Cambrian yn rhedeg o Bwllheli i Aberystwyth ac yn rhoi’r cyfle i chwi weld yr arfordir o bersbectif hollol wahanol.

Mae Rheilffordd Ffestiniog yn rhedeg trenau stêm rhwng Caernarfon a Phorthmadog ac yn teithio trwy gefn gwlad bendigedig ar gyflymder hamddenol.

I’r rhai ohonoch sydd yn mwynhau uchelfanau – aiff Rheilffordd yr Wyddfa â chi i fyny i gopa’r Wyddfa – pob 3,560 troedfedd ohono! Mae adeilad newydd Canolfan Hafod Eryri ar y copa yn cynnig paned groesawgar o goffi tra’n mwynhau’r olygfa!

Mae Plas yn Rhiw, plasdy bychan dan ofalaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn falch o’i erddi organig cysgodol ar ochr Mynydd Rhiw. Mae golygfeydd bendigedig dros Borth Neigwl ac mae’r ardd yn llawn coed i gysgodi’n braf rhag gwyntoedd y môr.

Mae Portmeirion yn cynnig gerddi coediog a phlanhigion is-drofannol yn ogystal â gerddi mwy ffurfiol a thraddodiadol ar eich cyfer. Os ydy o’n teimlo’n gyfarwydd – dyma leoliad sawl ffilm a rhaglen deledu – yn cynnwys The Prisoner.

Mae Plas Tan y Bwlch yn cynnig gardd Fictorianaidd 13 acer uwchben pentref bychan Maentwrog. Mae rhannau uchaf y gerddi gyda terasau ffurfiol ac mae yma ardd dŵr. Mae gardd Siapaneaidd, llwybrau rhododendron ac azalea, meithrinfa rhedynau a gardd wyllt, planhigion ecsotig, llwyni addurniadol a choed conifer.

Ewch ar gwch i Ynys Enlli, ynys chwedlonol oddi ar arfordir Aberdaron. Dywed chwedlau mai yma oedd man claddu ugain mil o seintiau – mwynhewch yr heddwch a’r llonydd ar yr ynys brydferth hon. Nefoedd i fywyd gwyllt – gwelwch y morloi gwyllt a’r amrywiaeth anhygoel o adar gwyllt yn cynnwys y `Manx Shearwater’.